P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Friends of Barry Beaches, ar ôl casglu 102 o lofnodion ar-lein.
Geiriad y ddeiseb
Mae'r
dystiolaeth ar gael i'r rhai sydd am ei gweld ... mae ein
dibyniaeth ar blastig untro a daflir i ffwrdd yn gwenwyno ein byd
naturiol.
Mae adar y môr yn bwyta plastigau, mae pysgod yn bwyta
plastigau, mae pysgod cregyn yn bwyta plastigau ac rydym ni, felly,
yn bwyta plastigau.
Mae cynhyrchu plastigau untro yn cynyddu bob blwyddyn, ond dim ond
9 y cant o blastigau sy'n cael eu hailgylchu yn y byd.
Ers i gynhyrchu plastigau ar raddfa fawr ddechrau yn y 1950au,
rydym wedi cynhyrchu 8.3 biliwn o dunelli ... yn gyfwerth â
phwysau un biliwn o eliffantod Affricanaidd! A disgwylir i'r ffigur
hwnnw gyrraedd 34 biliwn o dunelli erbyn 2050!!
Nid oes dim o'r plastig hwn wedi bioddiraddio yn ystod y cyfnod
hwn, ond yn hytrach mae wedi parhau i leihau, gan ei wneud bron yn
amhosibl i'w ddileu!
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno treth ar yr holl
blastigau untro sy'n debyg i'r taliad 5p llwyddiannus iawn ar
fagiau siopa untro.
Mae'n bryd gweithredu.
Gwybodaeth ychwanegol:
Grŵp
gwirfoddol yw Cyfeillion Traethau'r Barri, a sefydlwyd saith
mlynedd yn ôl, y mae ei nod yw cael gwared â sbwriel,
llawer ohono yn blastig, o bum prif draeth y Barri. Rydym yn
ymdrechu i ailgylchu cymaint ohono ag y gallwn.
Mae angen inni ddylunio ein pecynnau a'n cynwysyddion untro fel eu
bod yn bioddiraddio'n hawdd yn ein hamgylchedd.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad